Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2018
Amser:
08.30 -
08.58
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Ychwanegodd y Llywodraeth ddau ddatganiad:
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Morlyn Llanw Bae Abertawe (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyhoeddiad Diweddar Grŵp Airbus (45 munud)
Er mwyn cynnwys y datganiadau ychwanegol, bydd Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gychwynnol Athrawon (45 munud) yn cael ei gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig.
Penderfynodd Rheolwyr Busnes y dylai'r Cynnig Heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth gael ei gynnwys i'w drafod yfory, yn ogystal â chynnig i atal Rheolau Sefydlog 11.16, 12.20(i) a 12.22(ii) i ganiatáu i'r ddadl ddigwydd. Gofynnodd Paul Davies am i'w wrthwynebiad i'r ddau benderfyniad gael ei gofnodi. Hysbysodd y Llywydd y Pwyllgor mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i'r cynnig fydd 18.00 heddiw.
NNDM6753 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn datgan nad oes ganddo bellach hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni prosiectau seilwaith mawr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe.
2. Yn datgan nad oes ganddo hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn credu y dylai’r swydd gael ei dileu a’i disodli gan Gyngor Gweinidogion y DU, wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y cyd.
Dydd Mawrth
· Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018 –
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Datganiad: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Awtistiaeth (Cymru) (30 munud)
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ymadawiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (30 munud)
· Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2017 - 18 (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheiny sydd ag incwm isel (60 munud)
Penderfynodd Rheolwyr Busnes trwy bleidlais fwyafrif i godi aelodaeth y pwyllgor i chwe Aelod, a'i wneud yn fwy gwleidyddol gytbwys trwy ychwanegu dau Aelod Llafur i'r aelodaeth gyfredol, cyn iddi ddod yn bwyllgor sifftio o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Gofynnodd Paul Davies am i'w wrthwynebiad gael ei gofnodi.
Cytunodd Rheolwyr Busnes y dylid amseru'r newid i’r aelodaeth fel y bydd yn digwydd yr un pryd â newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar gyfer pwyllgor sifftio.
Cefnogwyd y cynnig gan fwyafrif y Rheolwyr Busnes, ac felly dywedodd y Llywydd y bydd y canllawiau'n cael eu newid i'w gwneud yn glir nad yw Arweinwyr Plaid yn gallu ymuno â'r balot ar gyfer cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Trafododd Rheolwyr Busnes gynnig y Llywydd i ychwanegu wythnos at dymor yr haf, a chytunwyd yn unfrydol i gadw at y patrwm presennol ar gyfer toriad yr haf.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2019, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2019, fel a ganlyn:
Toriad |
Dyddiadau |
Hanner Tymor yr Hydref 2018 (1 wythnos) |
Dydd Llun 29 Hydref 2018 – dydd Sul 4 Tachwedd 2018 |
Toriad y Nadolig 2018 (3 wythnos) |
Dydd Llun 17 Rhagfyr 2018 - dydd Sul 6 Ionawr 2019 |
Hanner Tymor y Gwanwyn 2019 (1 wythnos) |
Dydd Llun 25 Chwefror 2019 - dydd Sul 3 Mawrth 2019
|
Toriad y Pasg 2019 (3 wythnos) |
Dydd Llun 8 Ebrill 2019 - dydd Sul 28 Ebrill 2019
|
*Hanner tymor y Sulgwyn 2019 (1 wythnos)
|
Dydd Llun 27 Mai 2019 – dydd Sul 2 Mehefin 2019 |
*Toriad yr Haf 2019 (8 wythnos)
|
Dydd Llun 22 Gorffennaf 2019 – dydd Sul 15 Medi 2019 |
* Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.